Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc chwarae. Mae'r ysgogiad i chwarae yn gynhenid. Mae chwarae yn anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae’n sylfaenol i ddatblygiad iach a lles unigolion a chymunedau.

Prif ffocws a hanfod gwaith chwarae yw cefnogi a hwyluso’r broses chwarae a dylai hyn hysbysu datblygiad polisi chwarae, strategaeth, hyfforddiant ac addysg.
I weithwyr chwarae, y broses chwarae sy’n cael blaenoriaeth ac mae gweithwyr chwarae’n gweithredu fel eiriolwyr dros chwarae wrth ymwneud ag agendâu a arweinir gan oedolion.
Rôl y gweithiwr chwarae yw cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i greu gofod y gallant chwarae ynddo.
 Mae ymateb y gweithiwr chwarae i blant a phobl ifanc yn chwarae yn seiliedig ar wybodaeth gadarn a chyfoes o’r broses chwarae, ac arfer myfyriol.
Mae gweithwyr chwarae yn cydnabod eu heffaith eu hunain ar y gofod chwarae a hefyd effaith chwarae plant a phobl ifanc ar y gweithiwr chwarae.
Mae gweithwyr chwarae'n dewis arddull ymyrraeth sy'n galluogi plant a phobl ifanc i ymestyn eu chwarae. Rhaid i bob ymyriad gweithiwr chwarae gydbwyso risg gyda budd datblygiadol a lles plant.